Llyfrgell adnoddau
Chwarae dros Gymru – Rhifyn 63
Pwnc
Cylchgrawn
Dyddiad cyhoeddi
10.10.2024
Darllen yr adnodd
Gwanwyn | Haf 2024
Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn archwilio’r thema chwarae yn y blynyddoedd cynnar. Mae’n amlygu sut y gall rhyngweithiadau, profiadau ac amgylcheddau cynnar osod y sylfeini i blant wneud y gorau o gyfleoedd chwarae wrth iddyn nhw dyfu a datblygu. Mae’r erthyglau’n cynnwys:
- Datgloi pŵer chwarae yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf – mae Julie Powell yn archwilio pa mor bwysig yw chwarae yn ystod diwrnodau cynharaf bywyd plentyn
- Anna Westall yn rhannu enghreifftiau o arfer da wrth ymgynghori a gwrando ar ein plant ifancaf
- Dr. Nalda Wainwright yn trafod y wyddoniaeth sy’n ymwneud â phwysigrwydd y blynyddoedd cynnar
- Datblygu ymateb cymdogaethau i’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – trosolwg o’r astudiaeth ymchwil a gynhaliwyd gan Wendy Russell, Donna Gaywood, Mike Barclay a Ben Tawil
- Cadw cydbwysedd rhwng chwarae a dysgu chwareus – polisïau addysg blynyddoedd cynnar allweddol yng Nghymru
- Archwiliad o sut y gallwn gefnogi chwarae o bob oedran, yn yr erthygl Chwarae: diwylliant plentyndod
- Cyfweliad gyda Sarah Sharpe, gwarchodwr plant cofrestredig
- ‘Arafwch yrrwyr i ni gael chwarae’ – sut mae grŵp o blant yn ymdrechu i wneud eu cymdogaeth yn lle cyfeillgar a diogel i chwarae.
- Adroddiad diweddaru ar brosiectau a digwyddiadau Chwarae Cymru ledled y wlad.