Cym | Eng

Newyddion

Cyhoeddiadau Chwarae Cymru Haf 2024

Date

24.09.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

 

Dros Haf 2024, fe wnaethom gynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o gyhoeddiadau newydd i gefnogi a hysbysu’r rheiny sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am chwarae plant.

Dyma grynodeb o’r cyhoeddiadau – mae bob un ohonynt ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

 

Papur briffio

Ffocws ar chwarae – Sut mae chwarae’n cefnogi iechyd meddwl plant

Mae’r papur briffio hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n ystyried rôl allweddol chwarae plant wrth hybu lles ac iechyd meddwl cadarnhaol ac mae’n trafod ffyrdd y gall cynlluniau lleol a rhanbarthol gefnogi chwarae

 

Taflen wybodaeth

Gwaith chwarae – beth sy’n ei wneud mor arbennig?

Mae’r daflen wybodaeth hon wedi ei hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am waith chwarae a rôl y gweithiwr chwarae. Mae’n cynnig trosolwg o’r hyn sy’n unigryw am waith chwarae a rôl y gweithiwr chwarae ac mae’n disgrifio sut mae gwaith gweithwyr chwarae yn hwyluso chwarae plant

 

Adnodd Plentyndod Chwareus i deuluoedd

Teithiau cerdded chwareus

Detholiad o deithiau cerdded ar themâu penodol i helpu teuluoedd i fynd allan i archwilio eu hardal leol.

Mae’r teithiau cerdded hyn wedi cael eu haddasu o enghreifftiau gan Dîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors