Archwiliwch
Rydym wedi cyhoeddi diweddariad o’r Gweithdy hawl i chwarae. Mae’r gweithdy wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgolion i’w gynnal mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill. Gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un sydd â dealltwriaeth ymarferol o sut i gefnogi a hwyluso chwarae plant gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae.
Mae’r Gweithdy hawl i chwarae yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae. Mae hefyd yn anelu i alluogi plant ac arddegwyr i eiriol dros gyfleoedd gwell i chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.
Mae’r gweithdy’n cysylltu â Chwricwlwm i Gymru a Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn. Mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio yn ystod ac ar ôl y sesiwn yn cynnwys:
- gynllun sesiwn gweithdy
- nodiadau i hwyluswyr
- syniadau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm.
Gellir trosglwyddo’r Gweithdy hawl i chwarae ar ei ben ei hun, ond mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol ar gyfer cychwyn perthynas gydag ysgol.