Cym | Eng

Newyddion

Galwad i ystyried materion cymdeithasol ehangach wrth fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant

Date

18.09.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, wedi cyhoeddi papur safbwynt yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y ffactorau cymdeithasol ehangach wrth fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant – megis amddiffyn amser chwarae plant yn ystod y diwrnod ysgol.

Mae’r papur, o’r enw Gordewdra / pwysau iach, yn amlygu yn ôl data diweddar, fod mwy na chwarter y plant pedair neu bump oed yng Nghymru yn cael eu mesur fel dros eu bwysau neu’n ordew, gydag un o bob deg yn ordew. Mae’n awgrymu y dylid gwella sawl maes i leihau hyn, megis gwell addysg ar faeth, lleihau ansicrwydd bwyd a chynyddu gweithgarwch corfforol.

Mae’r papur yn nodi y gallai plant sy’n colli cyfleoedd i fwynhau chwarae neu amser egwyl yn ystod y diwrnod ysgol fod yn ffactor sy’n cyfrannu at weithgarwch corfforol annigonol. Mae’n tynnu ar ymchwil gan y Comisiynydd a ddatgelodd fod 46% o’r plant a holwyd yn colli amser chwarae.

Mae’r Comisiynydd yn annog Llywodraeth Cymru i bwysleisio pwysigrwydd penderfynyddion cymdeithasol ehangach gordewdra ac i ddefnyddio dull cyfannol sy’n seiliedig ar asedau i wella iechyd plant.

Mwy o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors