Cym | Eng

Newyddion

Gwahodd pobl ifanc i sefyll yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru

Date

11.09.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae cofrestru ar agor i blant 11 i 17 oed yng Nghymru i gyflwyno eu hunain fel ymgeiswyr i ddod yn aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae’r Senedd Ieuenctid yn gweithio’n uniongyrchol gyda Senedd Cymru ac yn rhoi cyfle i blant ac arddegwyr fynegi eu barn ar lefel genedlaethol, ar faterion megis hawliau plant. Mae’n cynnwys 60 o aelodau, sy’n cynnwys plant ac arddegwyr o bob rhan o Gymru sy’n cael eu hethol i wasanaethu am dymor o ddwy flynedd.

Bydd pleidleisio i ethol yr aelodau yn digwydd rhwng 4 a 25 Tachwedd 2024, a gall plant 11 i 17 oed hefyd gofrestru i gymryd rhan yn y bleidlais.

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru fel ymgeisydd: 30 Medi 2024

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors