Archwiliwch
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl ar gyfer 2024 ac ar agor ar gyfer enwebiadau.
Wedi’i trefnu gan CGGC (WCVA), mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru.
Eleni, mae’r gwobrau’n cynnwys wyth categori:
- Gwirfoddolwr y flwyddyn (26 oed neu hŷn)
- Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (25 oed neu iau)
- Codwr arian y flwyddyn
- Hyrwyddwr amrywiaeth
- Gwobr defnydd o’r Gymraeg
- Mudiad bach mwyaf dylanwadol
- Iechyd a lles
- Mudiad y flwyddyn.
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 25 Tachwedd 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 13 Medi 2024