Digwyddiad arall
Ymwybyddiaeth o Niwroamrywiaeth mewn Plant a Phobl Ifanc
Dyddiad
17/09/2024
Amser
09:30am - 4:30pm
Pris (aelod)
£98
Pris (ddim yn aelod)
£98
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Nod yr hyfforddiant undydd hwn yw galluogi staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i gael dealltwriaeth gadarn o niwroamrywiaeth. Bydd gan y cyfranogwyr werthfawrogiad o’i wahanol gyflwyniadau sy’n effeithio ar asesu a diagnosis plant a phobl ifanc yn ogystal â dealltwriaeth o risgiau byd-eang sy’n gysylltiedig â niwroamrywiaeth.
Nod yr hyfforddwr yw i’r cyfranogwyr symud i ffwrdd o ffocws un lens ac i gyfranogwyr weld y plentyn/person ifanc cyfan fel y gallant weithio’n optimaidd gyda gwasanaethau eraill.
Canlyniadau dysgu:
- beth yw niwroamrywiaeth?
- beth yw niwroddargyfeirio?
- beth yw geneteg a chyffredinolrwydd?
- beth yw proffil pigog?
- cyflyrau sy’n cyd-ddigwydd, megis ADHD ac awtistiaeth
- blynyddoedd cynnar: pryderon rhieni
- cyswllt o ganlyniadau gwael gyda nodi a chymorth hwyr
- cysylltiad ag anhwylderau iechyd meddwl
- rhieni, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl a thrawma
- labeli diagnostig yn erbyn dull a arweinir gan anghenion. (model meddygol yn erbyn model bioseicogymdeithasol)
- dulliau sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd a chryfder
- arferion cynhwysol – cymorth cyffredinol
- technegau cydreoleiddio a rheoleiddio yn y cartref a’r ysgol
- ‘meltdowns ‘yn erbyn ‘tantrums’
- niwroamrywiaeth a’r dull system gyfan, ymagwedd ysgol gyfan, Diwygio ADY a Chwricwlwm i Gymru.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc niwrowahanol a’u teuluoedd, sydd eisiau gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth i gynyddu eu hyder wrth adnabod, cysylltu, cefnogi a chyfeirio er mwyn gwella canlyniadau i deuluoedd.