Digwyddiad arall
ACE: Adeiladu gwytnwch yn wyneb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Dyddiad
16/09/2024
Amser
10:00am - 1:00pm
Pris (aelod)
£65
Pris (ddim yn aelod)
£65
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Nod y sesiwn hyfforddi ar-lein hanner diwrnod hon yw archwilio, deall yn well a chynyddu gwybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs).
Nodau:
Trwy drafodaethau craff a sesiynau rhyngweithiol, bydd cyfranogwyr yn:
- archwilio Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)
- cael gwell dealltwriaeth o’u heffaith ar blant ac oedolion yn ddiweddarach mewn bywyd
- cael gwell dealltwriaeth o gamddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, cam-drin domestig a thrais a’u heffeithiau ar blant
- archwilio plentyndod “da”.
- cynyddu gwybodaeth am wytnwch
- meddu ar sgiliau a hyder i feithrin gwytnwch gyda phlant a phobl ifanc.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn meithrin gwytnwch a deall ACE’s.