Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio rhaglen grantiau newydd i alluogi arloesi a chydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol ar fater tlodi plant. Y cyfanswm sydd ar gael i’w ddosbarthu o dan y gronfa grant hon yw £900,000 – ar draws prosiectau cymunedol, lleol a rhanbarthol, gan gynnwys mentrau chwarae.
Mae’r grant ar gael i gefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector (sy’n cynnwys grwpiau ffydd) yn eu hymdrechion i gyflawni’r canlynol:
- Gwella gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i’r afael â thlodi plant, sy’n gysylltiedig ag un neu fwy o bum amcan Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024
- Cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyfathrebu’n effeithiol, cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth wrth ymateb i dlodi plant.
Dylai ceisiadau ddangos sut y bydd plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn tlodi yn elwa o’r trefniant cydweithio ychwanegol hwn a ariennir gan grant yn y tymor hwy.
Bydd yr arian grant yn cael ei rannu’n dair cronfa gwahanol:
- Lefel gymunedol – hyd at £5,000 ar gael i bob cais llwyddiannus
- Lefel leol – hyd at £25,000 ar gael i bob cais llwyddiannus
- Lefel ranbarthol – hyd at £100,000 ar gael i bob cais llwyddiannus.
Wrth gyhoeddi’r ariannu, dywedodd Llywodraeth Cymru:
‘Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru … Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc, waeth beth yw’r incwm teuluol, allu gwireddu eu hawliau. Gwyddom fod angen inni gynllunio sut i wneud hyn ar gyfer pobl sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol o ganlyniad i wahaniaethu, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail rhywedd, anabledd, ethnigrwydd neu rywioldeb.’
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Gorffennaf 2024
Yn ystod yr wythnos yn cychwyn 12 Awst 2024 fe anfonir llythyrau at yr ymgeiswyr ynghylch y canlyniad.
Lawrlwytho Nodyn Cyfarwyddyd ar gyfer gwneud Cais am Grant a ffurflen gais