Archwiliwch
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol ar 11 Mehefin bob blwyddyn. Mae’r diwrnod yn cydnabod hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd ar gyfer eu lles.
Mae Chwarae Cymru yn galw ar ysgolion i ddathlu’r diwrnod drwy warchod amser chwarae. Rydym yn gofyn i ysgolion roi amser ychwanegol i bob plentyn chwarae – er enghraifft, drwy wneud amser cinio yn hirach neu drwy ddarparu amser chwarae ychwanegol.
Yn ystod y diwrnod ysgol, dylai plant dderbyn digonedd o amser a lle i chwarae’n rhydd gyda’u ffrindiau. Mae plant yn dweud bod amserau chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol. Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn gyfle da i ysgolion warchod amser chwarae a meddwl am sut y gellir cynnwys mwy o amser ar gyfer chwarae bob dydd.
I gefnogi ysgolion i roi mwy o amser i blant chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae, rydym wedi datblygu rhestr o awgrymidau anhygoel. Mae’r rhestr yn llawn syniadau syml ac ymarferol ar gyfer nodi’r diwrnod.
Lawrlwytho Awgrymiadau anhygoel ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae