Cym | Eng

Digwyddiad arall

Blynyddoedd Cynnar a Hawliau Plant

Dyddiad

17/10/2024

Amser

10:00am - 4:00pm

Pris (aelod)

£0

Pris (ddim yn aelod)

£0

Trefnydd

Plant yng Nghymru

Lleoliad

Ar-lein

Mae’r cwrs hyfforddi un-dydd hwn wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda babanod a phlant ifanc o dan saith oed neu gyda’u teuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, gweithgareddau awyr agored a chelfyddydol.

Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a dysgu sut mae’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc. Bydd amrywiaeth eang o adnoddau a dulliau yn cael eu rhannu, gan eich arfogi i hyrwyddo a chefnogi hawliau plant yn eich maes gwaith.

Nodau:

  • deall beth yw CCUHP, sut mae’n cael ei weithredu a’i fonitro yng Nghymru.
  • cael trosolwg o bolisïau blynyddoedd cynnar Cymru o fewn cyd-destun hawliau plant.
  • deall sut mae hawliau’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc.
  • deall sut mae llais plentyn yn cael ei glywed yn y blynyddoedd cynnar.
  • ymwybyddiaeth o offer a dulliau i’w defnyddio gyda babanod a phlant ifanc i gefnogi eu hawliau a’u llais.

Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ariannu drwy Lywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors