Archwiliwch
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, yn gofyn i bob plentyn oedran ysgol yng Nghymru i rannu eu barn am amser chwarae/egwyl.
Yn ei Mater Misol ym mis Mai – cyfle misol i blant gael dweud eu dweud ar bwnc penodol – mae’r Comisiynydd yn gofyn i blant:
- Ydych chi’n mwynhau amser chwarae/egwyl? Pam? Ydy e’n bwysig?
- Ydych chi byth yn colli amser chwarae egwyl? Beth fyddai’n gwneud eich amser chwarae/egwyl chi’n well?
Mae sleidiau cyflwyno ar gael i ysgolion gynradd ac uwchradd a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol i gefnogi sesiynau trafod yn yr ystafell ddosbarth.
Nod y sesiynau Mater Misol yw galluogi plant a phobl ifanc i helpu i lunio gwaith Comisiynydd Plant Cymru. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu gan y Comisiynydd i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Chwarae sy’n digwydd ar 11 Mehefin 2024.