Archwiliwch
Mae’r Matthew Good Foundation yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 i elusennau lleol, grwpiau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol yn y DU.
Bob tri mis, bydd y sefydliad yn rhannu £15,000 rhwng pum grŵp ar y rhestr fer sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau, pobl neu’r amgylchedd. Bydd pleidlais yn cael ei chynnal gan weithwyr y sefydliad i benderfynu sut y bydd y grant yn cael ei rannu ymhlith y grwpiau. Cyhoeddir gwobrau fel a ganlyn:
- Safle cyntaf – £5,000
- Ail safle – £3,500
- Trydydd – £2,500
- Pedwerydd a phumed safle – £2,000 yr un.
I fod yn gymwys, nid oes angen i grwpiau fod wedi’u cofrestru ond rhaid iddynt fod wedi derbyn incwm o lai na £50,000 yn y 12 mis diwethaf.
Croesewir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn a chânt eu hystyried ym mha bynnag yw’r rownd nesaf o ariannu. Bydd ariannu yn cael ei ddyfarnu bob tri mis, ym mis Ebrill, Gorffennaf, Hydref ac Ionawr, gyda dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o’r 15fed o’r mis blaenorol.
Ar gyfer dyfarniadau Ionawr, gwnewch gais rhwng 16 Medi a 15 Rhagfyr.
Ar gyfer dyfarniadau Ebrill, gwnewch gais rhwng 16 Rhagfyr a 15 Mawrth.