Archwiliwch
Mae The True Colours Trust yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i elusennau bach a phrosiectau sy’n gweithio i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd.
Mae’r ymddiriedolaeth ond yn derbyn ceisiadau gan elusennau cofrestredig neu’r rhai sydd â statws elusennol, sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. Mae’r ymddiriedolwyr yn arbennig o awyddus i gefnogi:
- Pyllau hydrotherapi
- Ystafelloedd amlsynhwyraidd
- Bysiau mini
- Prosiectau brodyr a chwiorydd
- Cymorth profedigaeth
- Offer chwarae arbenigol / mynediad i chwarae a hamdden
- Cefnogaeth i deuluoedd / cefnogaeth cyfoedion dan arweiniad rhieni.
Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r gronfa hon ar hyn o bryd.