Archwiliwch
Mae Comisiynwyr Plant Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyflwyno adroddiad ar y cyd ar realiti hawliau plant i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth i’r pwyllgor ar gofnodion hawliau dynol y DU a llywodraethau datganoledig ac os yw’r DU yn cadw ei haddewidion hawliau plant rhyngwladol. Mae’n amlygu meysydd sy’n peri pryder ynghylch hawliau plant, gan gynnwys tlodi, iechyd meddwl, a newidiadau arfaethedig i’r Ddeddf Hawliau Dynol gan Lywodraeth y DU.
Mae’r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad, ac yn galw ar lywodraethau i roi hawliau plant wrth galon polisi ac ymarfer.