Archwiliwch
Yn ystod 2023 fe wnaethom gynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o gyhoeddiadau newydd i gefnogi a hysbysu’r rheiny sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am chwarae plant. Dyma grynodeb o’r cyhoeddiadau – maent i gyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Edrychwn ymlaen at rannu mwy o adnoddau newydd gyda chi drwy gydol 2024.
Cylchgrawn Chwarae dros Gymru
Mannau chwareus
Rhifyn 60 (Gaeaf 2022)
Mae’r rhifyn hwn yn tynnu sylw at esiamplau o blant yn mwynhau enydau chwareus mewn amrywiaeth o leoedd – o fannau cyhoeddus ac atyniadau i deuluoedd megis sŵau ac amgueddfeydd i fannau sy’n llawn ansicrwydd fel ysbytai a charchardai i oedolion.
25 mlynedd o Chwarae Cymru
Rhifyn 61 (Gwanwyn | Haf 2023)
Mae’r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar 25 mlynedd o Chwarae Cymru, ac yn tynnu sylw at ddarnau diweddar o waith allweddol yr ydym wedi bod yn rhan ohonynt. Mae’n ddathliad o’n gwaith cydweithredol wrth ymgyrchu dros hawl plant i chwarae.
Adroddiad
Adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae – Crynodeb gan Chwarae Cymru
Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o Adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. Mae’n gosod y cyd-destun ar gyfer yr adolygiad – gan egluro pwysigrwydd chwarae i blant a phwysleisio’r ddyletswydd gyfreithiol yng Nghymru i amddiffyn a hyrwyddo chwarae.
Ymchwil
Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2022
Mae’r adroddiad hwn, wedi ysgrifennu gan David Dallimore, yn darparu crynodeb o wybodaeth a gasglwyd gan awdurdodau lleol ledled Cymru fel rhan o’u Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae yn 2022. Mae’n cyflwyno dadansoddiad o ymatebion oddi wrth bron i 7,000 o blant ac arddegwyr yng Nghymru ble maent yn sôn wrthym am yr hyn sy’n dda a beth sydd ddim cystal am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol.
Papur briffio
Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru
Mae’r papur briffio hwn, wedi ysgrifennu gan Wendy Russell, Mike Barclay a Ben Tawil. yn cyflwyno ein hadolygiad llenyddiaeth, Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru, a fydd ar gael yn fuan.
Ffilm
Dyma pam mae chwarae mor bwysig
Mae’r ffilm hon yn cynnwys plant o bob cwr o Gymru, sy’n dweud wrthym beth mae chwarae’n ei olygu iddyn nhw. Mae’r ffilm yn cyfleu pam mae chwarae’n hanfodol i ddatblygiad, iechyd, lles a hapusrwydd plant. Wedi’i throsleisio gan yr actor Matthew Rhys, mae’n dathlu chwarae ac yn amlygu ei bwysigrwydd i bob plentyn.