Archwiliwch
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen hyfforddiant a chymorth i drosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae i 750 o ddysgwyr.
Bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn trosglwyddo’r cymwysterau canlynol dros 18 mis, gan ddechrau yn gynnar yn 2024:
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae (L2APP) – 300 o ddysgwyr
- Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3 Lefel 2 a 3) – 75 o ddysgwyr
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Pontio i Waith Chwarae (ATPW) – 375 o ddysgwyr.
Bydd y cymwysterau yn cael eu trosglwyddo i:
- ymarferwyr sy’n gyflogedig yn y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae 18+ oed ar gyfer y cyrsiau Cyfnod Pontio a P3 (Lefel 2 a 3)
- ymarferwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae cyflogedig, di-waith neu wirfoddol oed 18+ ar gyfer y cyrsiau L2APP.
Mae Chwarae Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs a phartneriaid i drosglwyddo’r cymwysterau i weithwyr chwarae yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth i ddilyn.