Cym | Eng

Resources Library

Adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae – Crynodeb gan Chwarae Cymru

Pwnc

Report

Dyddiad cyhoeddi

29.11.2023

Darllen yr adnodd

Adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae – Crynodeb gan Chwarae Cymru

Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Tachwedd 2023

Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o Adroddiad Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.

Mae’n gosod y cyd-destun ar gyfer yr adolygiad – gan egluro pwysigrwydd chwarae i blant a phwysleisio’r ddyletswydd gyfreithiol yng Nghymru i amddiffyn a hyrwyddo chwarae. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd ystyried safbwynt plant wrth asesu digonolrwydd eu cyfleoedd chwarae.

Mae’r crynodeb yn rhoi trosolwg byr o’r gwaith a wnaed yn ystod yr adolygiad – gan gynnwys casglu safbwyntiau plant. Mae’n cyflwyno’r chwe ardal thematig o waith a nodwyd yn adolygiad y grŵp llywio a’r 15 argymhelliad a wnaed ar draws y themâu hyn.

Cychwynnodd Llywodraeth Cymru’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae yn 2019 i asesu ei gwaith yn ymwneud â pholisi chwarae ac i nodi meysydd i’w gwella. Mae’r adroddiad llawn a’r papur cefndir, yn ogystal ag ymateb ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i’r argymhellion, ar gael i’w darllen ar-lein.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors