Archwiliwch
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi lansio adnodd data newydd sy’n cyflwyno’r holl wybodaeth a gasglwyd drwy ei Datganiadau Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) rhwng 2020 a 2023.
Mae’r SASS yn cael ei gwblhau’n flynyddol gan bob darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru. Mae’r adnodd hunanadrodd data gofal plant a chwarae yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol gan 2790 o ddarparwyr cofrestredig ac yn cynnwys data ar bopeth, o hyfforddiant a chymwysterau i’r fframweithiau ansawdd a ddefnyddir. Mae’r adnodd hefyd yn amlinellu’r nifer o bobl sy’n gweithio yn y sector gofal plant a chwarae a nifer y swyddi gwag.
Dim ond ar lefel awdurdodau lleol y mae’r data ar gael. Mae hyn yn golygu y caiff enwau’r lleoliadau unigol eu hamddiffyn.
Mae fideo byr ar sut i ddefnyddio’r adnodd hefyd ar gael i’w weld ar-lein.