Archwiliwch
Mae cylchgrawn Hydref 2023 Plant yng Nghymru bellach ar gael i’w ddarllen ar-lein. Mae’r rhifyn 30ain penblwydd Plant yng Nghymru yn cynnwys erthyglau gan fwy nag 20 o bartneriaid yn rhannu eu teithiau i wneud hawliau plant yn flaenoriaeth o fewn nodau eu sefydliad.
Mae’r rhifyn yn cynnwys erthygl gan Chwarae Cymru o’r enw ‘Cefnogi hawl plant i chwarae’. Mae’n myfyrio ar ddechreuad Chwarae Cymru a sut yr ydym yn parhau i weithio i eiriol dros hawl plant i chwarae.
Mae Plant yng Nghymru hefyd yn gofyn i aelodau gyflwyno syniadau ar gyfer ei rifyn gaeaf o’r cylchgrawn. Mae’r ffocws ar sut olwg fyddai ar hawliau plant yn y dyfodol.