Cym | Eng

Newyddion

Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yn y DU i gael ei henwi’n Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF

Date

02.11.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Caerdydd wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang fel y ddinas gyntaf yn y DU i ennill statws Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF.

Nod y wobr yw dathlu dinasoedd lle mae hawliau plant, gan gynnwys eu hawl i chwarae, wedi eu gwreiddio mewn polisïau a gwasanaethau.

Lansiodd Cyngor Caerdydd ei Strategaeth Caerdydd sy’n Dda i Blant yn 2018. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae wedi cydweithio ag UNICEF UK a mudiadau plant a phobl ifanc i gynnal prosiectau sy’n blaenoriaethu hawliau plant.

Mae’r rhaglen wedi cyflawni sawl carreg filltir sy’n ymwneud â hyrwyddo hawl plant i chwarae, gan gynnwys:

  • Mae 40,000 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.
  • Mae 66,324 o blant 5 i 14 oed wedi defnyddio darpariaeth chwarae awdurdod lleol ers mis Ebrill 2020.
  • Ymgysylltwyd â 50 o dimau o blant i ddylunio ardaloedd newydd o’r ddinas trwy Minecraft Education.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, bod polisïau’r cyngor ‘wedi grymuso plant a phobl ifanc i gymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy’n bwysig iddynt, gan alluogi gwasanaethau i fodloni eu hanghenion ac oedolion i fod yn fwy atebol am y ffordd y mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu diogelu a’u cyflawni.’

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors