Cym | Eng

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn ymateb i argymhellion adroddiad grŵp llywio yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae

Date

23.10.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS wedi ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad grŵp llywio yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

‘Mae argymhellion yr adolygiad yn eang a bydd angen ystyried polisi ar draws y llywodraeth a pharhau i gydweithio gyda’r sector. Rwyf wedi nodi yn fy ymateb i bob argymhelliad y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd. Gellir gweithredu rhai o’r argymhellion hyn yn gyflym, ond bydd eraill yn cymryd amser. Lle rwyf wedi derbyn argymhelliad mewn egwyddor, byddwn yn dechrau bwrw ati â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r argymhellion hyn cyn gynted â phosibl er mwyn archwilio a ellir eu gweithredu’n llawn.

‘Un o’n camau cynnar fydd gweithio gyda’r sector i adolygu’r canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol, ynghyd â’r Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a’r canllawiau ategol. Byddwn yn parhau i ddiogelu a hyrwyddo cyfleoedd chwarae ac yn parhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yng Nghymru i fod yn wlad sy’n rhoi cyfle a rhyddid i blant a phobl ifanc i chwarae.’

Meddai Cyfarwyddwr Chwarae Cymru, Mike Greenaway:

‘Mae Chwarae Cymru yn croesawu cyhoeddi Adolygiad Gweinidogol o Chwarae – Ymateb i argymhellion y Grŵp Llywio. Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn ystod cyfnod o ansicrwydd a newid sylweddol oherwydd y pandemig a’r argyfwng costau byw. Rydym yn ddiolchgar am ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i greu gwlad chwarae-gyfeillgar. Mae’n amlygu lle Cymru ar lwyfan byd-eang o ran blaenoriaethu chwarae plant.

‘Rydym yn edrych ymlaen at drafod camau nesaf y daith gyda chydweithwyr yn y Llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol yn ein Cynhadledd Genedlaethol yng Nghaerdydd ar 23 Tachwedd 2023.’

Bu’r adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, yn dilyn adolygiad cydweithredol tair blynedd o waith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi chwarae. Cyflwynodd 15 o argymhellion allweddol mewn perthynas â chwe thema a nodwyd yn yr adolygiad, gyda’r nod o wella cyfleoedd ar gyfer chwarae plant yng Nghymru.

Arweiniwyd y grŵp llywio traws-broffesiynol gan Dîm Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru ac roedd yn cynnwys arbenigwyr chwarae a gwaith chwarae, gyda swyddogion polisi trawslywodraethol a chynghorwyr academaidd annibynnol i gefnogi’r adolygiad. Cafodd papur cefndir ei ddatblygu yn archwilio llenyddiaeth allweddol i gefnogi gwaith y grŵp llywio.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru y dasg i Chwarae Cymru o gydlynu ysgrifennu’r adroddiad ar ran y grŵp llywio.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors