Archwiliwch
Mae effaith tlodi ar hawliau, iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gwaethygu. Mae hyn yn ôl canfyddiadau diweddaraf arolwg blynyddol gan Plant yng Nghymru, a gynhaliwyd yn ystod gwanwyn 2023.
Mae’r Adroddiad ar 7fed Arolygon Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd 2023 yn tynnu ar ddau arolwg – un o weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda theuluoedd yng Nghymru, a’r llall o blant a phobl ifanc rhwng 10 a 25 oed.
Mae’r canfyddiadau’n datgelu bod y rhan fwyaf o’r 371 o weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr a arolygwyd – sy’n gweithio gyda lleiafswm o 110,000 o deuluoedd – yn teimlo bod effaith tlodi ar blant wedi cynyddu. Mae’r ymatebion yn amlygu pryderon ynghylch effeithiau ar hawliau a lles plant, gan gynnwys profiadau dysgu negyddol, iechyd meddwl ac emosiynol gwael, ac ynysu cymdeithasol.
Mae barn plant a phobl ifanc a arolygwyd hefyd yn dangos pryderon am effaith tlodi ac wnaeth llawer lleisio profiadau personol. Mae sylwadau am fwlio, materion iechyd meddwl a chorfforol, a methu ymuno â gweithgareddau ysgol neu gymdeithasu gyda ffrindiau yn datgelu maint yr effaith.
Mae’r adroddiad yn rhoi argymhellion gan blant a phobl ifanc ynghylch sut y byddent yn lleihau tlodi a chynyddu ansawdd a chynhwysiant. Mae’r rhain yn cynnwys mynd i’r afael â bwlio a gwella mynediad at gymorth ariannol i deuluoedd.