Archwiliwch
Cafodd penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU yn ystod pandemig COVID-19 effaith anghymesur ar hawliau plant yn Lloegr – gan gynnwys eu hawl i addysg, diogelwch a chwarae. Mae hyn yn ôl adroddiad newydd gan Achub y Plant, y Children’s Rights Alliance for England a Just for Kids Law.
Mae’r adroddiad, What about the Children? yn nodi hawl ac angen plant i chwarae fel un o’r meysydd allweddol a ddioddefodd, yn enwedig yn Lloegr. Mae’n dweud bod rhai rheolau yn Lloegr ynghylch ymarfer corff awyr agored a chwrdd ag eraill yn ddryslyd ac yn wahaniaethol. Roedd hyn yn golygu nad oedd plant yn gallu chwarae y tu allan gyda ffrindiau am gyfnod hir, gan arwain at niwed parhaol i’w datblygiad a’u hiechyd meddwl. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi roedd polisïau yng Nghymru a’r Alban yn gynt i gydnabod pwysigrwydd chwarae plant ac i gynnig arweiniad cliriach ynghylch plant.
Mae What about the Children? yn gwneud sawl argymhelliad, gan gynnwys darparu cymorth i blant ddelio â chanlyniadau parhaus y pandemig ac amddiffyn hawliau plant yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn cael ei ryddhau cyn sesiwn nesaf Ymchwiliad COVID-19 y DU, a fydd yn edrych ar y penderfyniadau a wneir gan llywodraethau y DU a datganoledig.