Cym | Eng

Newyddion

Byddwch yn barod ar gyfer 20mya

Date

07.09.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

O 17 Medi 2023, bydd y rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30mya ar strydoedd preswyl ledled Cymru yn newid i 20mya.

Nod y terfyn cyflymder is yw gwneud strydoedd yn fwy diogel ar gyfer chwarae, cerdded a beicio, yn ogystal â gwella ansawdd bywyd ac annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio cynaliadwy a llesol. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd y newid yn arbed hyd at 100 o fywydau dros y degawd cyntaf ac yn osgoi hyd at 20,000 o bobl yn cael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau traffig.

Cafodd y terfyn 20mya ei dreialu mewn wyth cymuned ledled Cymru yn 2021, a’i gymeradwyo’n gyfreithiol gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2022. Bydd y cyflwyniad cenedlaethol yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i leihau’r terfyn cyflymder rhagosodedig ar ffyrdd preswyl cyfyngedig a strydoedd prysur i gerddwyr.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors