Cym | Eng

Newyddion

Yn cyhoeddi dychweliad ein cynhadledd chwarae flynyddol

Date

07.09.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Bydd ein cynhadledd chwarae flynyddol yn dychwelyd yr hydref hwn am y tro cyntaf ers 2019, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 23 Tachwedd 2023.

Bydd y gynhadledd, Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae yng Nghymru: beth nesaf? yn canolbwyntio ar y camau nesaf ar gyfer gwireddu argymhellion yr adolygiad. Bydd yn cynnig diwrnod o ddysgu, ysbrydoliaeth a rhwydweithio, ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr:

  • Ddysgu mwy am yr adolygiad ac ymateb Llywodraeth Cymru
  • Cyfrannu at weithdai astudiaethau achos sy’n berthnasol i’r chwe thema a ddynodir yn yr adolygiad
  • Clywed am farn plant ynghylch bodlonrwydd chwarae.

Mae’r gynhadledd wedi ei hanelu at swyddogion digonolrwydd chwarae, ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae, aelodau etholedig llywodraeth leol, a phobl sy’n gweithio ym meysydd iechyd, addysg, teithio llesol, cynllunio tref a chymuned.

Mae pris boregodwyr ar gyfer aelodau yng Nghymru a chyfranogwyr o’r tu allan i Gymru ar gael tan 30 Medi 2023.

Cyhoeddir y siaradwyr gwadd a gwybodaeth am y gweithdai yn fuan.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors