Cym | Eng

News

Galwad am bapurau: Philosophy at Play Conference

Date

16.08.2023

Category

News

Archwiliwch

Mae Philosophy at Play yn galw am bapurau ar gyfer ei chweched gynhadledd ryngwladol. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan y Gyfadran Addysg ym Mhrifysgol Complutense ym Madrid rhwng 3 a 5 Mehefin 2024.

Thema’r gynhadledd yw ‘Postcolonial Approaches to Play Theories and Practices’. Ei nod yw cynnig lle i drafod cwestiynau pŵer ac ymyleiddio yng nghyd-destun chwarae, a safbwyntiau athronyddol y di-rym.

Mae’r gynhadledd yn derbyn cyflwyniadau o wahanol fformatau a hyd. Mae’r rhain yn cynnwys papurau cynhadledd safonol, darlithoedd perfformio a sgyrsiau ‘dim papur’ o hyd at 20 munud, a gweithdai, cyfweliadau, deialogau cyhoeddus, trafodaethau a gemau o 20 i 90 munud.

Os hoffech gyflwyno yn y digwyddiad, anfonwch grynodeb o 150 o eiriau gan gynnwys bywgraffiad, fformat y cyflwyniad a ddewiswyd ac unrhyw ofynion technegol. Saesneg a Sbaeneg fydd ieithoedd y gynhadledd, a gellir cyflwyno cynigion yn unrhyw un o’r ieithoedd hyn.

Dyddiad cau ar gyfer anfon cynigion: 30 Hydref 2023.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors