Archwiliwch
Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn casglu gwybodaeth gan blant a phobl ifanc oed ysgol am eu profiadau o’r diwrnod ysgol.
Mae arolwg Fy Niwrnod Ysgol wedi’i anelu at ganfod barn plant am hyd y diwrnod ysgol. Mae hefyd yn gofyn a yw plant yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o amser yn ystod y dydd ar gyfer gweithgareddau sy’n cefnogi eu lles, a beth hoffen nhw wneud mwy ohono.
Bydd canlyniadau’r arolwg yn llywio adroddiad gan Bwyllgor Addysg a’r Cwricwlwm Ysgol yn Senedd Ieuenctid Cymru i’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn hydref 2023. Mae’r gwaith yn cael ei wneud mewn ymateb i archwiliad Llywodraeth Cymru o newidiadau posibl i’r flwyddyn ysgol.
Mae arolwg ar wahân ar gael i oedolion i ddweud eu dweud am brofiad ysgol pobl ifanc.