Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus.
Mae’r newidiadau arfaethedig yn canolbwyntio ar bedwar maes:
- dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal
- cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer oedolion sy’n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG
- ehangu’r dyletswyddau gorfodol i hysbysu am blant ac oedolion sy’n wynebu risg;
- diwygio’r drefn reoleiddio ar gyfer darparwyr gwasanaethau, unigolion cyfrifol a’r gweithlu gofal cymdeithasol (yn cynnwys estyn y diffiniad o ‘weithiwr gofal cymdeithasol’ i gynnwys gweithwyr gofal plant a chwarae).
Derbyniodd yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng Awst a Thachwedd 2022, 200 o ymatebion gan amrywiaeth o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys Chwarae Cymru.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS:
‘Bydd y materion a godwyd yn yr ymarfer ymgynghori hwn yn hysbysu datblygiad pellach ein polisi a’n deddfwriaeth yn ymwneud â’r meysydd dan sylw, a byddwn yn parhau i feithrin cysylltiadau â’n partneriaid cyflawni ac eraill sy’n ceisio gwella gofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus yng Nghymru.’