Cym | Eng

Newyddion

Papur briffio newydd – Chwarae a lles: dull galluogrwydd perthynol

Date

06.06.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rydym wedi cyhoeddi papur briffio newydd i gyflwyno ein hadolygiad llenyddiaeth, Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru, a fydd ar gael yn fuan.

Comisiynodd Chwarae Cymru Wendy Russell, Mike Barclay a Ben Tawil i gynnal yr adolygiad llenyddiaeth. Cwblhawyd y gwaith 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn.

Mae’r adolygiad yn tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble fo’n briodol. Mae chwarae plant wedi ei ymchwilio ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd, yn cynnwys bioleg, astudiaethau esblygiadol ac astudiaethau addysg.

Mae’r ffynonellau mor ddiweddar â phosibl (ar wahân i rai testunau clasurol). Mae’r adolygiad yn cynnwys plant 0 i 18 mlwydd oed, er bod ambell ystod oedran wedi ei ymchwilio’n well nac eraill.

Mae’r papur briffio yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Gefndir a chwmpas yr adolygiad
  • Datblygiadau diweddar mewn ymchwil plentyndod a chwarae
  • Datblygiadau polisi
  • Sut mae chwarae’n cyfrannu at les
  • Chwarae plant heddiw.

Mae’r papur briffio yn cynnig dull galluogrwydd perthynol (a dynnwyd o’r llenyddiaeth) fel fframwaith newydd ar gyfer meddwl am chwarae a lles plant. Nid yw’n grynodeb hollgynhwysol o ganfyddiadau’r adolygiad – ni fyddai’n bosib gwneud cyfiawnder ag ehangder, dyfnder, cymhlethdod ac amrywiaeth yr ymchwil a adolygwyd mewn dogfen mor fyr â hon.

Bydd crynodeb fwy helaeth yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr haf, gyda’r adroddiad lawn i ddilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors