Archwiliwch
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, wedi lansio strategaeth newydd ar gyfer 2023 i 2026. Mae’n nodi’r hyn y mae’r Comisiynydd yn bwriadu ei wneud dros y tair blynedd nesaf i gefnogi plant yng Nghymru.
Mae’r strategaeth, Gwella bywyd i blant yng Nghymru yn amlinellu pwrpasau allweddol ar gyfer y comisiynydd, sy’n cynnwys gwrando ar bob plentyn a bod yn hygyrch iddynt, a’u cefnogi i wybod eu hawliau. Cyhoeddir cynlluniau gwaith blynyddol i ddangos sut bydd y pwrpasau hyn yn cael eu cyflawni.
Mae’r strategaeth yn dilyn arolwg lle cynigodd 8,830 o blant eu barn am ba waith y dylai’r comisiynydd ganolbwyntio arno. Cynhaliwyd yr arolwg yn 2022 a chasglodd adborth gan blant a phobl ifanc 2 i 25 oed, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.