Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol sydd wedi’u diweddaru ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Mae’r newidiadau yn adlewyrchu adborth a dderbyniwyd o ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2022. Mae hyn yn ei dro yn ymateb i adolygiad o’r safonau a’i argymhellion, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2019.
Mae diweddariadau pwysig i’r safonau yn cynnwys eglurhad o’r lefel briodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer gwahanol rolau yn y sector. Mae’r diweddariad hefyd yn gwneud newidiadau i ofynion hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig ar gyfer lleoliadau gofal plant cofrestredig.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Dirprwy Weinidog Gasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS:
‘Rydym wedi egluro’r newidiadau yr ydym wedi’u gwneud, sut y gellir gweithredu’r rhain a’r trefniadau pontio yr ydym wedi’u rhoi ar waith i helpu i liniaru effaith y gofynion ychwanegol ar ddarparwyr.’