Cym | Eng

Newyddion

Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd 2023 ar agor nawr

Date

02.05.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), wedi lansio ei Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd blynyddol. Nod yr arolygon yw nodi a deall mwy am broblemau presennol ac effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.

Bydd yr adroddiad ar y canfyddiadau’n cael ei gyhoeddi ar wefan Plant yng Nghymru ym mis Medi 2023. Bydd y canfyddiadau hefyd yn cael eu defnyddio i lywio adnewyddiad Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023.

Mae dwy fersiwn o’r arolwg ar gael – un ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, ac un ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r ddau arolwg yn cymryd tua 15 munud i’w cwblhau.

Dyddiad cau ar gyfer arolwg: 16 Mehefin 2023

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors