Cym | Eng

Newyddion

Cyhoeddi thema Diwrnod Chwarae 2023

Date

03.04.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, a ddethlir bob blwyddyn ledled y DU ar Ddydd Mercher cyntaf mis Awst. Byddwn yn dathlu Diwrnod Chwarae 2023 ar Ddydd Mercher 2 Awst.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw …

Chwarae am y nesaf peth i ddim – gwneud pob diwrnod yn antur

Mae’r thema eleni’n canolbwyntio ar yr anturiaethau chwarae bob dydd, rhad neu am ddim, y gall plant eu mwynhau gartref, mewn lleoliadau chwarae, ac yn ein cymunedau.

’Does dim rhaid i gyfleoedd chwarae gynnwys gweithgareddau drud, teganau costus, neu deithio i gyrchfannau sy’n bell i ffwrdd. Yn aml iawn y syniadau symlaf, y cyfleoedd rhad ac am ddim a’r rhai y dewch ar eu traws ar ddamwain, sy’n cynnig fwyaf o hwyl, ac sydd o fwyaf o fudd datblygiadol i blant a phobl ifanc.

  • Mae chwarae’n hanfodol i bob oed ac ym mhob cyfnod o blentyndod, ac mae’n arbennig o bwysig yn ystod adegau o argyfwng.
  • Mae chwarae’n helpu plant a phobl ifanc i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, delio gyda heriau, a chynyddu gwytnwch.
  • Mae chwarae’n hwyl, mae’n galluogi plant a phobl ifanc i wneud ffrindiau, gollwng stêm, ac ymdopi gyda straen a phryder.
  • Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer iechyd, hapusrwydd, a datblygu sgiliau plant a phobl ifanc yn cynnwys creadigedd, dychymyg, a’u synnwyr o antur.

Gwnewch y Diwrnod Chwarae hwn, a phob dydd, yn antur!

Am y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch eleni, dilynwch Diwrnod Chwarae ar Facebook a Twitter ac ymunwch yn yr hwyl trwy ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodChwarae2023.

Rhagor o wybodaeth

Cydlynir Diwrnod Chwarae gan Chwarae Cymru, Play England, Play Scotland a PlayBoard Northern Ireland.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors