Archwiliwch
Mae Plant yng Nghymru yn casglu gwybodaeth am y pethau sydd ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru i gefnogi llais a chyfranogiad rhieni ar faterion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.
Mae’r arolwg byr wedi’i anelu at fyrddau iechyd, byrddau partneriaeth rhanbarthol, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector. Mae’n rhan o brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu seilwaith i gefnogi rhieni a datblygu ‘system/platfform Cymru gyfan ar gyfer casglu barn rhieni, gan gynnig dull dwy ffordd sy’n galluogi llais rhieni i gael ei glywed a bwydo i ddatblygiad polisi.’