Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Newyddion

Lansio IPA Cymru Wales

Date

01.03.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Dydd Gŵyl Dewi hapus. I nodi’r diwrnod arbennig hwn, mae IPA Cymru Wales yn cael ei lansio. Mae IPA Cymru Wales yn gangen newydd o’r International Play Association (IPA).

Mae aelodaeth IPA Cymru Wales nawr ar agor ac ar gael i bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Cynigir amrywiol lefelau aelodaeth ar gyfer unigolion a sefydliadau.

Ymunwch ag IPA Cymru Wales i gefnogi mudiad rhyngwladol sy’n gweithio i warchod, diogelu a hybu hawl y plentyn i chwarae.

Mae’r International Play Association (IPA) yn sefydliad rhyngwladol anllywodraethol a sefydlwyd yn 1961 i warchod, diogelu, a hybu hawl plant i chwarae. Mae gan yr IPA aelodaeth eang ac amrywiol gyda changhennau gweithredol ledled y byd. Mae canghennau’r IPA yn sail ar gyfer rhwydwaith byd-eang ac maent yn cefnogi rhaglenni gwaith a gweithgarwch rhyngwladol yr IPA.

Mae gwaith, gwerthoedd ac egwyddorion IPA Cymru Wales yn cael eu cynnal gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac yn benodol Erthygl 31:

‘Mae gwladwriaethau sy’n barti yn cydnabod hawl y plentyn i orffwys a hamdden, i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gyfranogi’n rhydd mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.’

Ymunwch ag IPA Cymru Wales

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors