Cym | Eng

Newyddion

Ymgynghoriad ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir – crynodeb o’r ymatebion

Date

26.01.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed.

Derbyniodd yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd yn 2022, 196 o ymatebion gan amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr gofal dydd, awdurdodau lleol, a sefydliadau elusennol, megis Chwarae Cymru.

Prif nod yr ymgynghoriad oedd ymateb i argymhellion a wnaed yn sgil adolygiad o’r safonau gofynnol cenedlaethol yn 2019. Roedd angen eglurhad a chyfarwyddyd pellach mewn nifer o feysydd, er enghraifft, mewn meysydd fel cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelu.

Mae’r crynodeb o’r ymatebion yn dangos y cafwyd cefnogaeth gyffredinol i’r cynigon gan yr ymatebwyr, gyda rhai materion wedi’u nodi.

Fel cam nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mireinio manylion y newidiadau arfaethedig gan ddefnyddio mewnbwn gan bartneriaid megis awdurdodau lleol, a sefydliadau ymbarél gofal plant a chwarae yng Nghymru. Ei nod fydd sicrhau bod y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r canllawiau cysylltiedig yn cefnogi’r sector gofal plant a chwarae i fodloni gofynion perthnasol y safonau a’r rheoliadau.

Mewn datganiad ysgrifenedig, mae’r Dirprwy Weinidog Gasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS wedi dweud ei bod yn bwriadu cyhoeddi fersiwn wedi’i hadnewyddu o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ddiweddarach yn 2023. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu’n gyson.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors