Archwiliwch
Yn ystod 2022 rydym wedi cynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o gyhoeddiadau newydd i gefnogi a hysbysu’r rheiny sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am chwarae plant. Dyma grynodeb o’r cyhoeddiadau – mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Cylchgrawn Chwarae dros Gymru
Chwarae er lles
Rhifyn 58 (Gaeaf 2021)
Mae’r rhifyn hwn yn tynnu sylw at sut mae cyfleoedd i chwarae’n cyfrannu at les plant. Mae’n cynnwys erthyglau fel ‘Agor strydoedd ar gyfer chwarae, iechyd a lles’, ac ‘Ymchwil lles gyda phlant yng Nghymru’ gan Mustafa Rasheed.
Chwarae a lle
Rhifyn 59 (Gwanwyn 2022)
Mae’r rhifyn hwn yn tynnu sylw at sut all mynediad i ofod a’r modd y caiff ei drefnu, gefnogi mwy o blant i chwarae yn eu cymdogaethau. Mae’n cynnwys erthyglau fel ‘Anghenion chwarae plant yn eu harddegau a pham y dylem falio’ gan Claire Edwards, a ‘Creu lle i ferched’ gan Susannah Walker.
Cadwch lygaid am rifyn Gaeaf 2022 a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Llyfr stori
Hwyl ar iard yr ysgol
I ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant ar 20 Tachwedd 2022, fe wnaethom lansio llyfr stori newydd am hawl plant i chwarae.
Mae Hwyl ar iard yr ysgol yn adrodd stori un o adegau pwysicaf y diwrnod ysgol i lawer o blant – amser chwarae.
Mae’r stori amserol hon yn ei hatgoffa’n wych sut all pob oedolyn ym mywydau plant un ai gefnogi neu rwystro’r hawl i chwarae. Mae’n crynhoi pwysigrwydd oedolion ac amgylcheddau cefnogol a goddefgar wrth helpu plant i gyflawni eu hawl i chwarae.
Sut alla i gael copi o Hwyl ar iard yr ysgol?
Os hoffech chi dderbyn copi yn rhad ac am ddim mae’n rhaid i chi:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Cofrestru i’n rhestr bostio
- Rannu eich manylion, gan gynnwys cyfeiriad postio, trwy ebost.
Taflen wybodaeth
Yr Arolwg Bodlonrwydd Chwarae: Canllaw i’w ddefnyddio’n lleol
Mae’r canllaw hwn, sydd wedi ei ysgrifennu gan David Dallimore, wedi ei greu i gynorthwyo swyddogion awdurdodau lleol i ymgynghori â phlant fel rhan o’u gofynion Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae’n amlinellu arfer da wrth gynllunio, paratoi a defnyddio’r arolwg, ac mae’n darparu arweiniad ar gasglu, prosesu a chyflawni dadansoddiadau syml o’r data.
Ymchwil
Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021
Mae Astudiaeth Gweithlu Chwarae Cymru 2021 yn cynnig dealltwriaeth o’r gweithlu chwarae yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar dri maes sy’n gorgyffwrdd: strategol, cysylltiadau rhwng y strategol ac ymarfer a’r gweithlu chwarae ei hun. Comisiynodd Chwarae Cymru Dr Pete King a Dr Justine Howard o Brifysgol Abertawe i gynnal yr astudiaeth chwe mis rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2021.
Canllaw
Cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru
Mae’r canllaw byr hwn ar gyfer gweithwyr chwarae, cyflogwyr a rheolwyr. Mae’n rhoi trosolwg o ba gymwysterau gwaith chwarae sydd ar gael yng Nghymru a beth yw’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gweithwyr chwarae a rheolwyr.