Archwiliwch
Mae cynnydd mewn hysbysiadau o’r dwymyn goch a chlefyd streptococol ymledol wedi’i amlygu mewn llythyr i bob lleoliad gofal plant ac addysg gynradd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r llythyr yn adrodd bod 1,512 o hysbysiadau o’r dwymyn goch yn ystod 47 wythnos gyntaf 2022, o’i gymharu â 948 yn yr un cyfnod yn 2019. Mae’n dweud bod yr haint yn effeithio ar blant dan 10 oed yn bennaf.
Mae’r llythyr yn rhoi gwybodaeth am symptomau’r dwymyn goch a chymhlethdodau haint streptococol, ac yn argymell camau gweithredu ar gyfer lleoliadau.