Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau i leoliadau addysg a gofal plant ar gynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt.
Mae’r canllawiau anstatudol yn darparu gwybodaeth i helpu pob lleoliad addysg, gofal plant a chwarae – gan gynnwys darpariaeth gwarchod plant, gofal dydd, gofal sesiynol, chwarae mynediad agored a Dechrau’n Deg – i ymateb i ystod eang o argyfyngau.
Nid yw’r canllawiau’n ymdrin â phob agwedd ar yr hyn y dylai lleoliadau ei wneud mewn perthynas â chynllunio at argyfyngau ond mae’n amlinellu ac yn rhoi cyngor ar rai meysydd allweddol i’w hystyried.