Archwiliwch
I ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant (20 Tachwedd 2022) rydym yn lansio llyfr stori newydd am hawl plant i chwarae.
Mae Hwyl ar iard yr ysgol yn adrodd stori un o adegau pwysicaf y diwrnod ysgol i lawer o blant – amser chwarae.
Mae’r stori amserol hon yn ei hatgoffa’n wych sut all pob oedolyn ym mywydau plant un ai gefnogi neu rwystro’r hawl i chwarae. Mae’n crynhoi pwysigrwydd oedolion ac amgylcheddau cefnogol a goddefgar wrth helpu plant i gyflawni eu hawl i chwarae.
Wedi eu cefnogi gan yr awdur a’r bardd Mike Church, mae’r stori wedi ei hysgrifennu gan staff ysgolion sy’n gweithio a byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Ar gyfer pwy mae’r llyfr?
Mae’r llyfr ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rhieni – yn ogystal ag athrawon a staff ysgol. Mae’n anelu i gefnogi plant er mwyn gwneud yn siŵr bod ganddynt yr hawl i chwarae yn yr ysgol. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i gefnogi pobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.
Sut alla i gael copi o Hwyl ar iard yr ysgol?
Os hoffech chi dderbyn copi yn rhad ac am ddim mae’n rhaid i chi:
1. Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
2. Cofrestru i’n rhestr bostio
3. Rannu eich manylion, gan gynnwys cyfeiriad postio, trwy ebost.
Datblygwyd mewn partneriaeth â Petra Publishing