Archwiliwch
Mae’r Moondance Foundation yn cynnig grantiau i fudiadau ac achosion sy’n cael effaith drawsnewidiol yn eu cymunedau, yng Nghymru a thu hwnt.
Mae ffocws rhaglen cyllid Moondance yn cynnwys atal neu leddfu tlodi, cefnogi lles plant, gwella canlyniadau iechyd a chodi safonau addysgol.
Mae Moondance yn derbyn ceisiadau am gyllid gan elusennau cofrestredig, grwpiau cymunedol a gyfansoddwyd, mentrau cymdeithasol, mudiadau budd cymunedol, cwmnïau buddiannau cymunedol a mudiadau dielw eraill.
Nid oes cyfyngiad amser ar geisiadau i’r cynllun.