Cym | Eng

Newyddion

Mae chwarae mewn mwd yn hybu imiwnedd plant

Date

27.10.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae tystiolaeth sylweddol bod chwarae ym myd natur a mynd yn fudr nid yn unig yn dda i feddyliau plant ond hefyd yn cefnogi system imiwnedd iach. Mae hyn yn ôl archwiliad o ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022 gan BBC Future.

Mae’r dadansoddiad o ymchwil byd-eang yn dangos, yn ogystal â buddion seicolegol cadarn, y gall datguddiad i rai micro-organebau a geir mewn pridd hyfforddi’r system imiwnedd i ymdopi’n well â salwch. Mae tystiolaeth yn dangos y gall microbau cyfeillgar leihau’r tebygolrwydd o:

  • asthma
  • problemau croen fel ecsema a dermatitis
  • alergeddau
  • anhwylderau awto-imiwn fel clefyd Crohn
  • ymatebion corfforol i straen fel llid.

Mae’r dadansoddiad ymchwil yn tynnu ar astudiaethau a gynhaliwyd gan amrywiaeth o wledydd yn cynnwys y Ffindir, yr Eidal, y Swistir a Korea.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors