Archwiliwch
Mae Chlybiau Plant Cymru Kids’ Clubs a Chwarae Cymru yn casglu barn y gweithlu gwaith chwarae ar gynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno cofrestru proffesiynol ar gyfer y sector.
Mae rôl y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar wedi cael ei gydnabod fwyfwy am ei bwysigrwydd i ddatblygiad plant. Nod y cynllun i gofrestru pob gweithiwr chwarae proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant 0 i 12 oed yw sicrhau bod gan y gweithlu gymwysterau digonol i wneud hynny.
Ein nod yw cynrychioli barn gyfunol gweithwyr chwarae am y cynllun. Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ wedi datblygu fideo byr i helpu gweithwyr chwarae i ddeall beth sy’n cael ei gynnig a pham.
Ar ôl gwylio’r fideo, byddem yn croesawu eich barn trwy gwblhau arolwg byr.