Archwiliwch
Rydyn ni’n cynnal arolwg i ddarganfod beth mae rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn ei feddwl am wefan Plentyndod Chwareus.
Nod yr arolwg yw ein helpu i wella’r cymorth a’r wybodaeth ar-lein sydd ar gael i rieni a gofalwyr. Rydym yn gofyn i bobl sy’n gweithio i neu gyda phlant a theuluoedd i ddweud wrthym beth yw eu barn a rhannu’r arolwg gyda rhieni y maent yn gweithio gyda nhw.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua phum munud i’w gwblhau. Fel diolch arbennig gan Plentyndod Chwareus, bydd pawb sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cyfle i ennill taleb siopa gwerth £25.
Dyddiad cau ar gyfer yr arolwg: 21 Tachwedd 2022
Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.