Cym | Eng

Newyddion

IPA World yn lansio cyfres o weminarau

Date

07.10.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r International Play Association (IPA World) yn cynnal cyfres o weminarau rhad ac am ddim pob pythefnos i aelodau rhwng mis Hydref 2022 a mis Mai 2023 – yn arwain at Gynhadledd Byd yr IPA ym mis Mehefin 2023.

Cynhelir pob digwyddiad World Webinar Wednesdays dros 90 munud a bydd yn cynnwys sgyrsiau gydag aelodau IPA o bob rhan o’r byd. Ar draws y gyfres, bydd 31 o gyflwynwyr yn arddangos y gwaith sydd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r plentyn (CCUHP) yn eu cymunedau.

Pwrpas y digwyddiadau yw helpu aelodau i ddysgu mwy am bŵer chwarae ac i ysbrydoli syniadau.

Yr amserlen o ddigwyddiadau ar gyfer 2022 yw:

  • Building Social Cohesion and Community Wellbeing through Play (Gogledd Iwerddon ac Awstralia), 12 Hydref 2022
  • Providing for play in Ukraine (Gwlad Pwyl a’r Almaen), 26 Hydref 2022
  • Advocacy for Spaces for Play in the Community (Portiwgal, Taiwan a’r Alban), 9 Tachwedd 2022
  • Digwyddiad dathlu diwedd blwyddyn ar-lein i aelodau, 30 Tachwedd 2022

Mae cofrestru yn agored i holl aelodau IPA World trwy Borth Aelodaeth yr IPA.

Gall pobl sydd ddim wedi ymaelodi hyd yn hyn gofrestru i ymuno â IPA World a byddant yn cael mynediad ar unwaith i’r porth i gofrestru ar gyfer y digwyddiadau.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors