Archwiliwch
Mae Wythnos Seiclo i’r Ysgol (3 i 7 Hydref 2022) yn ddigwyddiad blynyddol ledled y DU a drefnir gan Bikeability a Sustrans i ddathlu buddiannau seiclo i’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys yr effaith gadarnhaol ar iechyd a lles plant.
Gall pawb gymryd rhan – plant, athrawon a rhieni – ac nid oes proses gofrestru ar gyfer ysgolion. Gellir gwneud y daith ysgol ar unrhyw fath o feic, er enghraifft ‘tagalong’ neu sgwter.
Yn 2021, addawodd y cyfranogwyr 33,314 o deithiau beicio i’r ysgol. Eleni, mae’r trefnwyr am i chi ddewis o un o bedwar addewid:
- seiclo i’r ysgol bob dydd
- cyfnewid un daith car am feicio
- seiclo gyda’ch teulu
- darganfod rhywle newydd ar daith feicio.