Archwiliwch
Mae ceisiadau ac enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau 2023 – gwobrau a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r Gwobrau yn cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig o’r meysydd gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae pum categori gwobrau sy’n cynnig cyfle i grwpiau, timau, sefydliadau a gweithwyr unigol ddod i ddathlu eu cyflawniadau.
Hoffai Chwarae Cymru weld pobl sy’n hyrwyddo chwarae neu sy’n defnyddio dull gwaith chwarae fel rhan o’u gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau 2023.
Y tri chategori ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:
- Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
- Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu
- Cefnogi gofalwyr di-dâl.
Y ddau gategori ar gyfer gweithwyr gofal unigol yw:
- Gwobr arweinyddiaeth effeithiol
- Gwobr Gofalwn Cymru
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau: 5:00pm 5 Tachwedd 2022