Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru eisiau penodi cynrychiolwyr amrywiaeth i’r Grŵp Atebolrwydd Allanol Cymru Wrth-hiliol.
Gydag aelodau eraill o’r grŵp, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn helpu’r Llywodraeth i gyflwyno ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Bydd yr aelodau yn helpu i ysgogi’r gwaith a chynghori arno drwy gymryd rhan mewn trefniadau llywodraethu.
Bydd aelodau yn derbyn tâl o £198 y diwrnod, yn ogystal â chostau rhesymol megis teithio.
Gofynnir am ymrwymiad o 16 diwrnod y flwyddyn o leiaf. Bydd y penodiad cychwynnol am chwe mis.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 11:00am 17 Hydref 2022.