Cym | Eng

Newyddion

Galwad am dystiolaeth ar weithrediad hawliau plant

Date

08.09.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Plant yng Nghymru yn galw am dystiolaeth gan sefydliadau, rhwydweithiau ac unigolion o unrhyw newidiadau i weithrediad hawliau plant yng Nghymru, ers cyhoeddi ei adroddiad Cyflwr Hawliau Plant ym mis Rhagfyr 2020.

Bydd y dystiolaeth yn llywio diweddariad yr adroddiad, sy’n cael ei wneud mewn ymateb i archwiliad y Cenhedloedd Unedig o’r cynnydd a wnaed gan lywodraethau i weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar waith. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddiweddaru mewn partneriaeth â Grŵp Monitro CCUHP Cymru a’i gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig yn hwyrach yn 2022.

Roedd yr adroddiad gwreiddiol yn cynnwys wyth pwnc, gan gynnwys ‘Addysg, hamdden a gweithgareddau diwylliannol’, gyda materion yn ymwneud â chwarae yn rhan o’r pwnc hwn. Mae Plant yng Nghymru yn arbennig o awyddus i ganfod:

  • Beth yw’r prif faterion y dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus fod yn rhoi blaenoriaeth iddyn nhw a pham?
  • Beth sydd wedi newid ers adroddiad mis Rhagfyr 2020? Oes unrhyw beth wedi gwella neu waethygu i blant yng Nghymru? Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud? Pa dueddiadau rydych chi’n eu gweld?
  • Pa wybodaeth neu dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi y newidiadau hyn?
  • Pa bolisi neu newidiadau i’r gyfraith sy’n angenrheidiol?
  • Pa argymhellion rydych chi’n eu hawgrymu dylai’r CU eu gwneud i lywodraeth(au) i wella’r sefyllfa i blant yng Nghymru?

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth: 7 Hydref 2022

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors